2012 Rhif 1493 (Cy. 191)

iECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn pennu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd planhigion.

Mae’r ffioedd yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau penodedig a gweithrediadau eraill a gyflawnir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i'r Gymuned organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t.1).

Pennir y ffioedd am wiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion mewn perthynas â mewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd (rheoliad 2 ac Atodlenni 1, 2 a 3), yn unol â’r gofyniad yn Erthygl 13d o Gyfarwyddeb 2000/29/EC.

Mae’r Rheoliadau yn cydgrynhoi nifer o offerynnau blaenorol a oedd yn ymdrin ar wahân â ffioedd penodol ynglŷn ag iechyd planhigion; dirymir yr offerynnau blaenorol hynny (rheoliad 7). Nid yw’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno unrhyw fathau newydd o ffioedd.

Mae lefelau’r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn yr offeryn hwn yn rhan o symudiad fesul cam, dros gyfnod o dair blynedd, tuag at ffioedd sy’n adennill y gost lawn. Cynyddir y rhan fwyaf o’r ffioedd yn sylweddol: pennir cynnydd o 229% mewn ffioedd arolygu mewnforio, 52% yn y ffioedd mewn perthynas â thatws hadyd, 160% mewn ffioedd trwyddedu, 184% yn y ffioedd am arolygu tatws sy’n tarddu o’r Aifft, a 55% yn y ffioedd am wasanaethau pasbortau planhigion. Darperir manylion pellach yn y Memorandwm Esboniadol.

Paratowyd asesiadau rheoleiddiol o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes, mewn perthynas â phob un o’r pum math o ffioedd y mae’r offeryn hwn yn ymwneud â hwy, ac maent ar gael gan Adran yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

 


2012 Rhif 1493 (Cy. 191)

iECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012

Gwnaed                                5 Mehefin 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       12 Mehefin 2012

Yn dod i rym                      6 Gorffennaf 2012

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliad 7(a), (b) ac (c) drwy arfer pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 7(a), (b) ac (c), gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973([3]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.([4])

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Gorffennaf 2012.

(2) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)     ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i'r Gymuned organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned([5]); a

(b)     ystyr “y GIP” (“the PHO”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006([6]).

(3) Mae i’r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i’w cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb.

Ffioedd arolygu mewnforio

2.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â llwythi o—

(a)     planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 a restrir yn Rhan B o Atodiad V i’r Gyfarwyddeb, a

(b)     hadau Solanaceae, pa un a restrir hwy ai peidio yn y Rhan honno,

a ddygir i mewn i Gymru o wlad neu diriogaeth ac eithrio un sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu sy’n destun cytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o’r GIP.

(2) Ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru—

(a)     y ffi a bennir—

                           (i)    yng ngholofn 3 o Atodlen 1 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, ac eithrio llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion y mae paragraff (ii) o’r is-baragraff hwn yn gymwys iddo; neu

                         (ii)    yng ngholofn 4 o Atodlen 2 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno ac sy'n tarddu o wlad a restrir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno; a

(b)     y ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 3 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod.

(3) Ond, pan gynhelir gwiriad iechyd planhigion ar lwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, a hynny ar gais y mewnforiwr neu unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y llwyth, y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â'r llwyth hwnnw yw—

(a)     y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu

(b)     y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng yr oriau 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([7]) yng Nghymru.

Tatws hadyd: ffioedd

3.(1)(1) Mae’r ffioedd a bennir yn Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â’r swyddogaethau a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno, sy’n ymwneud â chais am—

(a)     ardystiad o datws hadyd yn unol â rheoliad 9 o’r Rheoliadau Tatws Hadyd;

(b)     awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o'r Rheoliadau hynny.

(2) Mae’r ffi sy’n daladwy mewn perthynas â swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 4 mewn perthynas â’r swyddogaeth honno.

(3) Rhaid talu’r ffi mewn perthynas â swyddogaeth a bennir yn Atodlen 4 i Weinidogion Cymru i gyflawni’r swyddogaeth honno o dan y Rheoliadau Tatws Hadyd ar ran Gweinidogion Cymru.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Rheoliadau Tatws Hadyd” (“the Seed Potatoes Regulations”) yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006([8]).

Ffioedd am drwyddedau iechyd planhigion

4.(1)(1) Mae’r ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn ymwneud â thrwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o’r GIP.

(2) Mewn perthynas â chais neu arolygiad o fath a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Atodlen 5, rhaid i berson dalu i Weinidogion Cymru y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r math hwnnw o gais neu arolygiad.

Ffioedd am awdurdodi pasbortau planhigion

5.(1)(1) Rhaid talu'r ffi a bennir ym mharagraff (2) i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw arolygiad (gan gynnwys arolygiad o gofnodion busnes) a gyflawnir mewn cysylltiad ag—

(a)     cais am awdurdod; neu

(b)     sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw amodau y rhoddwyd awdurdod yn ddarostyngedig iddynt.

(2) Y ffi yw £31.50 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr (gan gynnwys yr amser a dreulir ar arolygu, ar deithio ac ar weinyddu cysylltiedig), yn ddarostyngedig i leiafswm ffi o £63.00 am bob ymweliad.

(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion, a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006([9]) neu erthygl 29 o’r GIP.

Tatws sy’n tarddu o’r Aifft: ffioedd

6.(1)(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o’r Aifft, er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o’r Atodiad i’r Penderfyniad, a yw’r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ffi o £87.80 mewn perthynas â phob lot y cymerir sampl ohoni.

(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i weithredu mesurau argyfwng dros dro yn erbyn lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., mewn cysylltiad â’r Aifft([10]).

Dirymiadau

7. Dirymir y canlynol—

(a)     Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Trwyddedau) (Cymru a Lloegr) 1996([11]), o ran Cymru yn unig;

(b)     rheoliad 6 o Reoliadau Tatws sy’n Tarddu o’r Aifft (Cymru) 2004([12]);

(c)     Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006([13]);

(ch) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Pasbortau Planhigion) (Cymru) 2007([14]);

(d)     Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2010([15]); ac

(dd) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2012([16]).

 

 

 

 

 

John Griffiths

 

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

 

5 Mehefin 2012

 


                                             ATODLEN 1      Rheoliad 2(1)(a), (2)(a)(i) a (3)(a)

Ffioedd Arolygu Mewnforio

 

Colofn 1

Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall

Colofn 2

Nifer

Colofn 3

Ffi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd)

(£)

 

Colofn 4

Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)

Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion ifanc mefus neu lysiau

hyd at 10,000 o ran nifer

46.98

70.47

am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny

1.88, hyd at uchafswm o 375.84

2.81, hyd at uchafswm o 563.76

Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio hadau)

hyd at 1,000 o ran nifer

46.98

70.47

am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny

1.15, hyd at uchafswm o 375.84

1.73, hyd at uchafswm o 563.76

Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws) a fwriedir ar gyfer eu plannu

hyd at 200 kg

46.98

70.47

am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny

0.43, hyd at uchafswm o 375.84

0.64, hyd at uchafswm o 563.76

Hadau, meithriniadau meinwe

hyd at 100 kg

20.13

30.20

am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny

0.46, hyd at uchafswm o 375.84

0.69, hyd at uchafswm o 563.76

Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon

hyd at 5,000 o ran nifer

46.98

70.47

am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny

0.46, hyd at uchafswm o 375.84

0.69, hyd at uchafswm o 563.76

Blodau wedi'u torri

hyd at 20,000 o ran nifer

46.98

70.47

am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny

0.36, hyd at uchafswm o 375.84

0.54, hyd at uchafswm o 563.76

Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri)

hyd at 100 kg

46.98

70.47

am bob 100 kg ychwanegol, neu ran o hynny

4.67, hyd at uchafswm o 375.84

7.01, hyd at uchafswm o 563.76

Coed Nadolig sydd wedi'u torri

hyd at 1,000 o ran nifer

46.98

70.47

am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny

4.67, hyd at uchafswm o 375.84

7.01, hyd at uchafswm o 563.76

Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog

hyd at 100 kg

46.98

70.47

am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny

4.67, hyd at uchafswm o 375.84

7.01, hyd at uchafswm o 563.76

Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog)

hyd at 25,000 kg

46.98

70.47

am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny

1.88

2.81

Cloron tatws

hyd at 25,000 kg

140.94 (am bob lot)

211.41 (am bob lot)

am bob 25,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

140.94 (am bob lot)

211.41 (am bob lot)

Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl

hyd at 25,000 kg

46.98

70.47

am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny

1.88, hyd at uchafswm o 375.84

2.81, hyd at uchafswm o 563.76

Grawn

hyd at 25,000 kg

46.98

70.47

am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny

1.88, hyd at uchafswm o 1879.19

2.81, hyd at uchafswm o 2818.78

Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed fforestydd

am bob llwyth

46.98

70.47

 

 

                                             ATODLEN 2             Rheoliad 2(2)(a)(ii) a (3)(b)

Ffioedd Arolygu Mewnforio: Cyfraddau Gostyngol

 

Colofn 1

Genws

Colofn 2

Nifer

Colofn 3

Gwlad tarddiad

Colofn 4

Ffi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd)

(£)

 

Colofn 5

Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)

Blodau wedi’u torri

Dianthus

hyd at 20,000 o ran nifer

Colombia

2.35

3.52

Ecuador

4.70

7.05

Kenya

2.35

3.52

Twrci

11.74

17.62

am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny

Colombia

0.02, hyd at uchafswm o 18.79

0.03, hyd at uchafswm o 28.19

Ecuador

0.04, hyd at uchafswm o 37.58

0.07, hyd at uchafswm o 56.38

Kenya

0.02, hyd at uchafswm o 18.79

0.03, hyd at uchafswm o 28.19

Twrci

0.10, hyd at uchafswm o 93.96

0.15, hyd at uchafswm o 140.94

Rosa

hyd at 20,000 o ran nifer

 

Colombia

1.41

2.11

Ecuador

1.41

2.11

Ethiopia

2.35

3.52

Kenya

2.35

3.52

Tanzania

4.70

7.05

Uganda

11.74

17.62

Zambia

11.74

17.62

am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny

Colombia

0.01, hyd at uchafswm o 11.28

0.01, hyd at uchafswm o 16.91

Ecuador

0.01, hyd at uchafswm o 11.28

0.01, hyd at uchafswm o 16.91

Ethiopia

0.02, hyd at uchafswm o 18.79

0.03, hyd at uchafswm o 28.19

Kenya

0.02, hyd at uchafswm o 18.79

0.03, hyd at uchafswm o 28.19

Tanzania

0.04, hyd at uchafswm o 37.58

0.07, hyd at uchafswm o 56.38

Uganda

0.07, hyd at uchafswm o 93.96

0.10, hyd at uchafswm o 140.94

Zambia

0.07, hyd at uchafswm o 93.96

0.10, hyd at uchafswm o 140.94

Canghennau gyda deiliant

Phoenix

hyd at 100 kg

Costa Rica

16.44

24.66

am bob 100 kg ychwanegol neu ran o hynny

Costa Rica

1.63, hyd at uchafswm o 131.54

2.45, hyd at uchafswm o 197.32

Ffrwythau

Citrus

hyd at 25,000 kg

Yr Aifft

7.05

10.57

Israel

4.70

7.05

Mecsico

7.05

10.57

Moroco

2.35

3.52

Periw

11.74

17.62

Twrci

1.41

2.11

Uruguay

7.05

10.57

UDA

7.05

10.57

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Yr Aifft

0.26

0.39

Israel

0.19

0.28

Mecsico

0.26

0.39

Moroco

0.07

0.10

Periw

0.47

0.70

Twrci

0.03

0.05

Uruguay

0.26

0.39

UDA

0.26

0.39

Malus

hyd at 25,000 kg

Ariannin

4.70

7.05

Brasil

7.05

10.57

Chile

2.35

3.52

Tsieina

23.49

35.23

Seland Newydd

4.70

7.05

De Affrica

2.35

3.52

UDA

11.74

17.62

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Ariannin

0.19

0.28

Brasil

0.28

0.42

Chile

0.09

0.14

Tsieina

0.94

1.40

Seland Newydd

0.19

0.28

De Affrica

0.09

0.14

UDA

0.47

0.70

Passiflora

hyd at 25,000 kg

Colombia

4.70

7.05

Kenya

4.70

7.05

De Affrica

23.49

35.23

Zimbabwe

16.44

24.66

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Colombia

0.16

0.25

Kenya

0.16

0.25

De Affrica

0.92

1.38

Zimbabwe

0.63

0.94

Prunus

hyd at 25,000 kg

Ariannin

16.44

24.66

Chile

4.70

7.05

De Affrica

4.70

7.05

Twrci

4.70

7.05

UDA

4.70

7.05

am bob 1000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Ariannin

0.63

0.94

Chile

0.16

0.25

De Affrica

0.16

0.25

Twrci

0.16

0.25

UDA

0.16

0.25

Pyrus

hyd at 25,000 kg

Ariannin

4.70

7.05

Chile

11.74

17.62

Tsieina

16.44

24.66

De Affrica

4.70

7.05

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Ariannin

0.16

0.25

Chile

0.47

0.70

Tsieina

0.66

0.98

De Affrica

0.16

0.25

Llysiau

Solanum melongena

hyd at 25,000 kg

Twrci

4.70

7.05

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Twrci

0.16

0.25

 

 

                                             ATODLEN 3                          Rheoliad 2(2)(b)

Ffioedd Arolygu Mewnforio: Gwiriadau Dogfennol a Gwiriadau Adnabod

 

Colofn 1

Gwiriad

Colofn 2

Nifer

Colofn 3

Ffi (£)

Dogfennol

am bob llwyth

5.36

Adnabod

am bob llwyth hyd at faint llwyth lori, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faint cymharol

5.36

am bob llwyth sy’n fwy na’r maint uchod

10.71

 

 

                                             ATODLEN 4                                 Rheoliad 3

Tatws Hadyd: Ffioedd

 

Colofn 1

Swyddogaeth

Colofn 2

Ffi(1) (£)

Colofn 3

Lleiafswm ffi (£)

Arolygu cnydau sy’n tyfu a darparu labeli a seliau mewn perthynas â cheisiadau

Ardystio fel tatws hadyd cyn-sylfaenol

122.57*

n/a

Ardystio fel tatws hadyd sylfaenol a ddosberthir fel:

super elite 1, super elite 2 neu super elite 3

61.29

122.57

elite 1, elite 2 neu elite 3

61.29

122.57

A

58.26

116.52

Ardystio fel tatws hadyd ardystiedig

52.96

105.93

Awdurdodiad i farchnata tatws hadyd

122.57*

n/a

Arolygu cloron a gynaeafwyd

Hyd at ddau arolygiad

18.16

36.32

Trydydd arolygiad ac arolygiadau dilynol

122.57*

n/a

(1) Mae’r cyfraddau, a restrir yn y golofn hon ac yng ngholofn 3, sydd wedi eu marcio â seren yn gyfraddau fesul awr neu ran o awr, a’r cyfraddau nad ydynt wedi eu marcio felly yn gyfraddau fesul hanner hectar neu ran o hanner hectar.

 

                                             ATODLEN 5                             Rheoliad 4(2)

Ffioedd am Drwyddedau Iechyd Planhigion

 

Colofn 1

Eitem

Colofn 2

Math o gais neu arolygiad

Colofn 3

Ffi (£)

1

Cais am drwydded ac eithrio trwydded sy’n dod o fewn eitem 2 neu 3

781.27

2

Cais am drwydded mewn perthynas â phridd neu gyfrwng tyfu arall ar gyfer ei ddadansoddi

563.54

3

Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu ddibenion treialu, sy’n ymwneud â 5 neu ragor o fathau o bethau 

781.27, plws 30.74 am bob math o beth dros ben y 5

4

Cais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau, pan fo asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol

256.15

5

Cais am adnewyddu trwydded heb newidiadau, neu gais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau bach yn unig, pan nad yw asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol

30.74

6

Arolygu a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau trwydded

42.06 am bob awr neu ran o awr

 



([1])           Yn rhinwedd Erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 5) 2010, O.S. 2010/2690.

([2])           1972 p.68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7).

([3])           1973 p.51. Diddymwyd is-adran (6) o adran 56 gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1977 (p.18).

([4])           Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf  Llwyodraeth Cymru 2006 p.32

([5])           OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/1/EU (OJ Rhif L 7, 12.1.2010, t.17).

([6])           O.S. 2006/1643 (Cy.158).

([7])           1971 p.80; gweler adran 1 ac Atodlen 1.

([8])           O.S. 2006/2929 (Cy.264).

([9])           O.S. 2006/1344 (Cy.134).

([10])         OJ Rhif L 319, 2.12.2011, t.112.

([11])         O.S. 1996/26.

([12])         O.S. 2004/2245 (Cy.209).

([13])         O.S. 2006/2961 (Cy.267).

([14])         O.S. 2007/1765 (Cy.154).

([15])         O.S. 2010/2917 (Cy.242), a ddiwygiwyd gan O.S. 2012/285 Cy.49).

([16])         O.S. 2012/285 (Cy.49).